Cwymp Wall Street

Cwymp marchnad stoc Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd (NYSE) yn Hydref 1929 oedd Cwymp Wall Street. Daeth hyn ag ymchwydd economaidd Unol Daleithiau America yn y 1920au i ben, ac arweiniodd at y Dirwasgiad Mawr. Dechreuodd y cwymp ar 24 Hydref (Dydd Iau Du) a pharhaodd nes 29 Hydref (Dydd Mawrth Du).


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search